Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried cyflwyno mesurau newydd i fynd i’r afael â phryderon am y cynnydd mewn ymosodiadau â laser.

Mae gyrwyr trenau a pheilotiaid wedi mynegi pryderon am eu diogelwch, gan y gall pen laser achosi niwed i’r llygaid.

Fe allai’r mesurau sy’n cael eu hystyried gynnwys cyflwyno system drwyddedu i werthwyr, a chyfyngiadau ar hysbysebu.

Mae cynlluniau trwyddedu eisoes mewn grym yn Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau, ymhlith gwledydd eraill.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i dwristiaid o wledydd Prydain gael eu bygwth â laser wrth deithio ar awyren i ynys Malaga yn ne Sbaen.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Margot James wedi lansio cyfnod ymgynghori.

Cosb

Gall pobol gael dirwy o £2,500 am ddefnyddio laser mewn modd peryglus, ond cafodd mesurau i’w gwneud hi’n haws i’r heddlu gosbi troseddau eu gollwng o gynlluniau Llywodraeth Prydain ym mis Mehefin.

Cafodd 466 o droseddau’n ymwneud â laser eu cofnodi rhwng Ebrill 2011 a Hydref 2016, yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Cafodd 1,258 o achosion eu hadrodd wrth yr Awdurdod Awyrennau Sifil y llynedd.

Yn ôl arolwg, mae arbenigwyr meddygol wedi adrodd am 150 o ddigwyddiadau’n ymwneud â laser ers 2013, a nifer helaeth ohonyn nhw’n ymwneud â phlant.