Richard Wyn Jones (Llun: golwg360)
Mae deall cymhlethdod pobol Cymru “yn allweddol” er mwyn deall pam y pleidleisiodd y wlad o blaid Brexit, yn ôl un academydd.

Fe fu Richard Wyn Jones yn traddodi darlith ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos hon gan rannu  rhai o’r canfyddiadau o’r dadansoddiad manwl cyntaf o Gymru a Brexit.   

Yn siarad â golwg360 dywedodd bod “hunaniaeth genedlaethol” wedi bod yn ffactor bwysig iawn yng Nghymru yn ystod y bleidlais.

“Be oeddwn i’n ffeindio, a beth mae’r ymchwil yn dangos ydi bod hunaniaeth genedlaethol wedi bod yn bwysig iawn o ran y bleidlais yng Nghymru – ond wrth gwrs bod Cymru yn wlad gymhleth iawn. Mae Cymru’n wlad fach gymhleth o ran hunaniaeth genedlaethol.

“Mae ganddon ni bob math o raniadau,” meddai. “Er enghraifft rhaniad ieithyddol ,wrth gwrs, rhwng pobol sy’n siarad Cymraeg ac sydd ddim. Rhaniadau o ran lle cafodd pobol eu geni, tua thraean o’r etholaeth wedi’u geni yn Lloegr. A pob math o batrymau cymhleth -ac yn aml iawn go lleol – o hunaniaeth genedlaethol.”

Y Gymraeg

O’r amryw o ffactorau gwahanol yng Nghymru, mae’n ymddangos yr oedd y gallu i siarad Cymraeg ymysg un o’r ffactorau pennaf.

“Oeddwn yn dangos bod y Gymraeg yn ei hun yn ffactor. Does dim ots pa grŵp hunaniaeth ydych chi, oeddech chi’n fwy tebygol o bleidleisio i aros os oeddech yn siarad Cymraeg yn iaith rugl neu rywfaint o Gymraeg.

“Ymysg y bobol hynny sy’n teimlo’n Gymry yn unig neu sy’n siarad yn rhugl – ac mae’r mwyafrif llethol siaradwyr Cymraeg rhugl yn teimlo’n Gymry’n unig – dim ond 16% ohonyn nhw oedd yn pleidleisio i adael.”

Cymru a’r Alban

Yn ôl Richard Wyn Jones, roedd cenedlaetholwyr Cymru a’r Alban yn pleidleisio yn yr un modd, ond mi wnaeth y gwahaniaeth yn nifer yr unigolion gwladgarol arwain at wahaniaethau rhwng y ddwy wlad.

“Os wyt ti isio cymharu’r Alban a Chymru, oedd pobol sy’n teimlo’n Gymru yn unig wedi pleidleisio’n debyg iawn i bobol sy’n teimlo’n Albanwyr yn unig,” meddai.

“Ond mae pobol sy’n teimlo’n Albanwyr yn unig yn hanner poblogaeth yr Alban – maen nhw’n llai na 30% o bobol Cymru. Mae deall cymhlethdod demograffics Cymru yn allweddol.”