Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yw’r diweddaraf i ymosod ar y BBC am ei bortread o’r Gymraeg ar y rhaglen Newsnight neithiwr.

Dywed y Gweinidog bod y ddadl ar yr iaith ar os yw hi’n “help” neu’n “rhwystr” i Gymru yn dangos “anwybodaeth lwyr” ac mae wedi galw am ymddiheuriad gan y BBC.

Roedd y rhaglen ar BBC2 wedi gwahodd gelyn i’r Gymraeg, Julian Ruck, a Ruth Dawson, sy’n olygydd Cymru ar wefan newydd The Conversation i drafod yr iaith er bod naill na’r llall yn medru’r iaith.

Mae’n debyg bod nifer o staff BBC Cymru yn benwan dros y ffordd y cafodd yr iaith ei phortreadu ar y rhaglen ond gwrthododd y gorfforaeth yn Llandaf gynnig ymateb i golwg360.

Mae ymateb chwyrn wedi bod ar Twitter ac mae deiseb, sy’n galw am adolygiad i’r ffordd y mae’r iaith yn cael ei phortreadu gan y BBC, eisoes wedi cael dros 2,500 o bobol yn llofnodi.

Yr ymateb ar Twitter

The unenlightening ‘But Isn’t Welsh Just A Waste Of Time?’ piece by Newsnight felt like an insulting, poorly executed box-ticking exercise.

— I Loves The ‘Diff (@ILovesTheDiff) August 9, 2017