Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae disgwyl i 4,000 o weision sifil Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu hadleoli fel rhan o ddatblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd.

Daw hyn wrth i’r Llywodraeth arwyddo prydles 25 mlynedd gan sicrhau 265,000 troedfedd sgwâr i ddatblygu swyddfeydd yn yr adeilad newydd ger gorsaf trenau canol Caerdydd.

Bwriad Llywodraeth y DU yw creu canolfannau y tu allan i Lundain, gyda chanolfannau tebyg eisoes yn cael eu datblygu yng Nghaeredin, Bryste a Croydon.

Mae disgwyl y bydd gweithwyr o bob adran o’r Llywodraeth yn gallu gweithio oddi yno, ond un o’r prif ddeiliaid fydd swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r safle ynghanol Caerdydd wedi dechrau ers 2014, gyda BBC Cymru yn bwriadu symud yno yn 2019.

‘Gweladwy’

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y bydd y cynllun yn creu arbedion gwerth biliynau i drethdalwyr, rhyddhau tir a lleihau adeiladau’r Llywodraeth o 800 i tua 200 erbyn 2022.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig olion traed sylweddol yng Nghymru eisoes, ac rwy’n credu bod seilio sawl adran mewn swyddfa yng nghanol Caerdydd yn arddangos yr effaith gallwn greu drwy gydweithio gwell,” meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywedodd y bydd yn anfon “neges glir fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn weladwy, yn hawdd mynd ato ac yn helpu i wella bywydau pobol yng Nghymru.”