Euryn Ogwen Williams
Mae un o fawrion y cyfryngau yng Nghymru wedi’i benodi i arwain adolygiad annibynnol ar ran Llywodraeth Prydain i waith S4C.

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn heddiw, daeth y cyhoeddiad mai Euryn Ogwen Williams fydd wrth lyw’r adolygiad a hynny wedi iddo fod yn Ddirprwy Brif Weithredwr i S4C rhwng 1988 a 1991.

Mae disgwyl i’r adolygiad gyflwyno argymhellion am waith S4C i Lywodraeth Prydain o fewn tri mis.

Pynciau’r adolygiad…

Rhai o brif bynciau’r adolygiad fydd asesu cylch gwaith S4C, sut mae’n cael ei lywodraethu, ei bartneriaeth â’r BBC yn ogystal â dulliau cyllido.

Fe fydd ystyriaeth hefyd i sut mae’r sianel yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn cyfrannu at economi Cymru, sut mae’n cydweithio â’r sector cynhyrchu annibynnol, rôl Ofcom ynghyd â ffigurau gwylio a bodlonrwydd gwylwyr.

Daeth cadarnhad hefyd y bydd y BBC yn rhoi un taliad o £350,000 yn 2017/18 i helpu i roi rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad, gyda’r Llywodraeth yn cyhoeddi fis Mawrth y byddan nhw’n rhoi £350,000 i helpu uwchraddio offer technegol.

‘Cyfnod allweddol’

Mae Euryn Ogwen Williams wedi disgrifio’r cyfnod hwn fel “cyfnod hollbwysig” i S4C gan bwysleisio’r angen i ddatblygu’n ddigidol a hybu’r Gymraeg.

“Roedd yn anrhydedd mawr cael gwahoddiad i arwain adolygiad S4C, a hynny yn ystod cyfnod allweddol i’r sefydliad pan mae’n mynd i’r afael â’r heriau mae’n eu hwynebu wrth i’r dirwedd cyfryngau newid yn gyflym,” meddai.

Bu Euryn Ogwen Williams yn Ddirprwy Bri Weithredwr S4C rhwng 1988 a 1991, a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwyr Rhaglenni cyntaf y sianel pan gafodd ei sefydlu yn 1982.

Mae ganddo fwy na 50 mlynedd o brofiad ym maes darlledu ac wedi gweithio am gyfnod yn yr Alban ac Iwerddon, ac y llynedd cafodd wobr Cyfraniad Oes  er cof am John Hefin yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.

“Bydd y ddegawd nesaf yn fwy heriol byth wrth i S4C, fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, feithrin y berthynas â’i gynulleidfaoedd yn y byd digidol. Mae’n rhaid iddo hefyd chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o ddatblygu’r Gymraeg mewn cyfnod hollbwysig yn ei hanes,” ychwanegodd.

‘Adolygiad pwysig’

Mae Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C wedi’i ddisgrifio yn “ddarlledwr profiadol a dadansoddwr craff o ddyfodol y cyfryngau.”

Dywedodd y bydd yr adolygiad yn “gyfle allweddol i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C at ddiwylliant ac economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac at ddyfodol yr iaith Gymraeg.”

Ac yn ôl Guto Bebb AS, “mae Llywodraeth y DU wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf.”

Ychwanegodd Karen Bradley, Ysgrifennydd Diwylliant Lywodraeth Prydain, fod gan Euryn Williams “ddealltwriaeth ragorol o ddarlledu yng Nghymru, yn ogystal â’r iaith, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru, yn sicr yn dwyn budd i gynnydd yr adolygiad pwysig hwn.”

TAC – ‘cynyddu’r ariannu cyhoeddus’

Mae’r undeb Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) hefyd wedi croesawu’r adolygiad gyda’r Cadeirydd, Iestyn Garlick, yn disgrifio hwn yn “adeg dyngedfennol i S4C”.

“Mae perthynas unigryw S4C â’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru’n galluogi i’r darlledwr gyflenwi ystod o raglenni o safon uchel,” meddai.

“Ond mae cynnydd mewn rhaglenni newydd yn angenrheidiol er mwyn denu cynulleidfaoedd, ac oherwydd hyn, mae TAC yn galw am godiad un-tro o 10% yng nghyfanswm yr ariannu cyhoeddus mae S4C yn ei dderbyn. Yn ogystal, rhaid clymu’r ariannu â chwyddiant,” meddai.

“Dylid cynnal a chryfhau annibyniaeth S4C, heb fod arni ymrwymiad ffurfiol i adrodd i’r BBC, a dylai ei chylch gorchwyl sicrhau bod y mwyafrif helaeth o’i rhaglenni’n deillio o’r amrywiol gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru.”

‘Balchder’


Ychwanegodd Suzy Davies, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr fod angen i S4C “gymryd mantais o’r holl blatfformau digidol a masnachol o syniadau da, ynghyd ag ehangu’r arfer o wneud deunydd creadigol a hyfforddi pobol greadigol a phroffesiynol.”
“Does neb yn gofyn am siec wag, ond dylem fuddsoddi mewn baner ar long nid siaced achub,” meddai gan ddweud y dylai S4C fod yn fater o “falchder” i Gymru a’r Deyrnas Unedig.