Mark Drakeford, Llun: Senedd TV
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru am weld Cymru’n parhau i ddatblygu partneriaid Ewropeaidd o ran ymchwil i bysgodfeydd a’r hinsawdd.

Daw sylwadau Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, wrth iddo ymweld â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n rhan o brosiect gydag Iwerddon i drafod Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru yr Undeb Ewropeaidd.

Un o gynlluniau’r prosiect yw ysgogi twf yn niwydiant pysgod cregyn y ddwy wlad ac asesu effaith newid hinsawdd Môr Iwerddon.

 

‘Cydweithio yn hanfodol’

“Mae Môr Iwerddon yn adnodd hanfodol pwysig sy’n cael ei rannu rhwng y ddwy genedl, mae’n sefyll i reswm felly, bod cydweithio yn hanfodol,” meddai Mark Drakeford.

“Rhaid cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd cyffredin sy’n codi o’r newidiadau amgylcheddol a’r newidiadau yn yr hinsawdd.”

“Mae’r prosiectau hyn yn manteisio ar arbenigedd gwyddonwyr Cymru ac Iwerddon er mwyn helpu i ddiogelu bywyd morol a chael goleuni pellach ar ffyrdd o ddiogelu a datblygu’r diwydiant pysgodfeydd yma ac yn Iwerddon.”

‘Ymchwil rhyngwladol’

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â phrifysgolion eraill yng Nghymru ac Iwerddon yn ogystal â Sefydliad Morol Iwerddon i ddatblygu bwyd môr, y Bord Iascaigh Mhara.

“Mae’r ddau brosiect hwn, Bluefish a’r Irish Sea Portal  yn enghreifftiau gwych o ymchwil rhyngwladol sydd o fudd i gymunedau arfordirol Cymru ac Iwerddon,” meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.

“Drwy gydweithio â phrifysgolion, cyrff o fewn y diwydiant, a phartneriaid masnachol y ddwy wlad, mae arbenigedd  Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, sydd ymysg y mwyaf blaenllaw yn y byd, yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau’r rheini sy’n gweithio yn y sector morol,” ychwanegodd.