Syr Vince Cable (Llun: Llywodraeth agored)
Mae Syr Vince Cable wedi beirniadu pobol oedrannus am “wfftio” pobol ifanc wrth bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn “ferthyron” oedd yn credu bod anawsterau economaidd yn bris oedd yn werth ei dalu er mwyn gadael Brwsel.

Fe ddywedodd fod eu safbwyntiau am yr Undeb Ewropeaidd “wedi’u lliwio gan nostalgia o’r gorffennol imperialaidd”, a’u bod nhw’n eu gorfodi ar y genhedlaeth iau.

Daw’r sylwadau ar ôl i arolwg gan YouGov awgrymu bod 61% o’r bobol a gafodd eu holi ac a bleidleisiodd dros adael yn credu bod anawsterau economaidd yn bris oedd yn werth ei dalu er mwyn torri’n rhydd.

‘Merthyrdod’

Mewn erthygl yn y Mail on Sunday, dywedodd Syr Vince Cable: “Mae disgrifio’r fath fasochistiaeth fel ‘merthyrdod’ yn beryglus. Dydyn ni ddim eto wedi clywed am ‘jihadis Brexit’ ond mae islais o drais yn yr iaith, sy’n peri gofid.

“Mae merthyrdod yr henoed yn dod yn rhad, gan fod gan gyn lleied swyddi i’w colli.

“Mae’r henoed wedi wfftio’r ifanc yn llwyr. Ac mae’r henoed wedi cael y gair olaf am Brexit, gan orfodi bydolwg wedi’i liwio gan nostalgia am y gorffennol imperialaidd ar genhedlaeth iau sy’n fwy cyfforddus o lawer gydag Ewrop fodern.”