Jeremy Corbyn
Mae penaethiaid undebau ac Aelodau Seneddol blaenllaw wedi galw ar Arweinydd y Blaid Lafur i gefnogi hawl gweithwyr i barhau i symud yn rhydd o fewn ffiniau’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Jeremy Corbyn mi fydd hawl gweithwyr i symud yn rhydd yn dod i ben yn dilyn Brexit, a bydd y blaid yn cyflwyno polisi “mewnfudo hydrin”.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Staff Trafnidiaeth Gyflogedig, Manuel Cortes, a Phennaeth Undeb y Pobyddion (BFAWU), Ronnie Draper, wedi ymuno ag ‘Ymgyrch Llafur dros Symudiad Rhydd’.

Ymysg nifer o wleidyddion ac ymgyrchwyr undebau sydd yn rhan o’r ymgyrch mae’r Aelodau Seneddol Llafur, Clive Lewis, a David Lammy.

Ymgyrch symudiad rhydd

“Rydym angen swyddi diogel sy’n talu’n dda, i bawb,” meddai datganiad cyntaf yr ‘Ymgyrch Llafur dros Symudiad Rhydd’. “Hefyd rydym angen undebau llafur mwy rhydd.

“Rydym angen polisi o fuddsoddiad anferthol mewn tai cyngor, gwasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd. Bydd dod a symudiad rhydd i ben yn ein hatal rhag gwireddu hyn.”