Llun: Steve Parsons/PA Wire
Mae Llywodraeth Prydain wedi beirniadu cwmni Nwy Prydain sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n codi eu prisiau trydan 12.5% gan effeithio ar 3.1 miliwn o gwsmeriaid.

Cyhoeddodd y cwmni ynni y bydd y prisiau’n codi o 15 Medi ar ôl i’r cwmni wneud camgymeriad ddydd Llun gan gyhoeddi datganiad anghyflawn ar eu gwefan yn sôn am gynyddu biliau trydan.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Prydain – “dylai cwmnïau ynni drin eu holl gwsmeriaid yn deg, ac rydym yn bryderus y bydd y codiad pris hwn yn effeithio llawer o bobol sydd eisoes ar dariffau isel eu hansawdd.”

‘Galw am osod cap’

“Mae Ofgem wedi ymrwymo i ymateb yn sydyn, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr y farchnad, i ddatblygu cynigion sy’n cynnwys tariff wedi’i ddiogelu,” meddai’r llefarydd.

“Rydym eisiau gweld cynnydd sydyn ar yr ymrwymiad hwn ac nid ydym yn diystyru unrhyw beth,” ychwanegodd.

Yn y cyfamser, mae gweinidog cysgodol Llafur ar yr amgylchedd, Alan Whitehead, wedi galw ar y Llywodraeth i osod cap ar brisiau ynni.

Dywed Nwy Prydain, sy’n berchen i gwmni Centrica, mai dyma’r cynnydd cyntaf mewn prisiau ers mis Tachwedd 2013 ac y bydd yn ymdrechu i helpu i ddiogelu 200,000 o gwsmeriaid bregus.