Uchel Lys yn Llundain
Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod ymgais i ddwyn achos preifat yn erbyn Tony Blair tros ryfel Irac.

Roedd y cyn-Gadfridog Abdul Wahed Shannan Al Rabbat wedi cyhuddo Tony Blair, pan fu’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, dros gyflawni “trosedd ymosodol” drwy gynnal cyrch yn Irac yn 2003 i ddisodli’r Arlywydd Saddam Hussein.

Ond mae barnwyr yr Uchel Lys heddiw wedi gwrthod yr ymgais gan ddweud nad ydyn nhw’n gweld cynnydd i’r ddadl yn y Goruchaf Lys.

Un o’r barnwyr oedd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd ynghyd â’r Arglwydd Brif Ustus ac Ustus Ouseley.

‘Trosedd ymosodol’

Roedd Abdul Wahed Shannan Al Rabbat eisiau erlyn Tony Blair ynghyd â dau weinidog arall ar y pryd – yr ysgrifennydd tramor Jack Straw a’r twrne cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith.

Roedd ei gyfreithwyr wedi gofyn am hawl yr Uchel Lys i gael adolygiad barnwrol er mwyn mynd i’r Goruchaf Lys er mwyn gwyrdroi dyfarniad Tŷ’r Arglwyddi yn 2006 oedd yn nodi nad oes y fath drosedd â “throsedd ymosodol” o dan gyfraith Cymru a Lloegr – ond gwrthododd yr Uchel Lys hynny.

Cyfeiriodd y cyfreithiwr ar ran Cadfridog Al Rabbat at adroddiad John Chilcot i ryfel Irac gafodd ei gyhoeddi’r llynedd, gan ddweud nad oedd ffyrdd heddychlon ar wahân i ryfel “wedi cael eu hystyried ddigon.”

Aeth ymlaen i ddweud fod y gymuned ryngwladol wedi dal y rheiny oedd yn gyfrifol am yr Ail Ryfel Byd i gyfrif, a’i bod “yn ddyletswydd” ar lysoedd y Deyrnas Unedig i ddilyn esiampl hynny o ran rhyfel Irac.