Tony Blair Llun: PA
Fe fydd yr Uchel Lys yn dyfarnu heddiw yn achos cyn-bennaeth ym myddin Irac sydd eisiau dod ag erlyniad preifat yn erbyn Tony Blair dros ryfel Irac.

Mae’r Cadfridog Abdul Wahed Shannan Al Rabbat yn honni bod Tony Blair, a oedd yn brif weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, wedi cyflawni “trosedd ymosodol” trwy gynnal cyrch yn Irac yn 2003 er mwyn disodli’r Arlywydd Saddam Hussein.

Mae’r cadfridog eisiau erlyn Tony Blair ynghyd a dau weinidog arall ar y pryd – yr ysgrifennydd tramor Jack Straw a’r twrne cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith.