Prif Weinidog Prydain, Theresa May (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Fe allai Cristnogion gael eu targedu gan strategaeth wrth-frawychiaeth Llywodraeth Prydain, yn ôl esgob blaenllaw.

Dyna fydd awgrym y Gwir Barchedig Mark Davies, Esgob Amwythig, wrth iddo annerch cynulleidfa yn Lourdes yn Ffrainc ddydd Llun.

Bydd yn rhybuddio y gallai ymdrechion Prif Weinidog Prydain, Theresa May i fynd i’r afael ag ymosodiadau brawychol gael eu camddefnyddio er mwyn cosbi Cristnogion sy’n anghydweld ag agweddau seciwlar.

Fe fydd yn dweud: “Mae Prydeinwyr bellach yn ystyried honiadau Cristnogaeth a hyd yn oed Iesu Grist fel rhai sy’n cynrychioli eithafiaeth.

“Mae hyd yn oed yn bosib fod ffydd yng Nghrist, y cafodd ein cenedl ei seilio arno, yn dod yn ganolbwynt agenda wrth-frawychol y Llywodraeth.”

Cafodd camau newydd i fynd i’r afael â brawychiaeth eu cyhoeddi yn Araith y Frenhines, ond fe fydd yr Esgob Mark Davies yn trafod y dryswch yngylch y diffiniad o eithafiaeth, gyda bron i draean o bobol oedd wedi ateb arolwg gan ComRes drwy ddweud bod Iesu Grist yn eithafwr.