Mae gohirio’r ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn “gyfle” i’r SNP drafod egwyddorion sylfaenol annibyniaeth, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford.

Dywedodd ei fod yn “fodlon” nad yw’r pwyslais bellach ar sicrhau amserlen ar gyfer refferendwm arall yn dilyn y canlyniad siomedig yn 2014.

Cyhoeddodd arweinydd y blaid a phrif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ar ôl yr etholiad cyffredinol brys yn San Steffan fod y cynlluniau ar gyfer ail refferendwm yn cael eu rhoi o’r neilltu am y tro.

Ond mae’n “debygol” y gallai refferendwm gael ei gynnal cyn 2021 – er mai’r cynllun gwreiddiol oedd ei gynnal yn 2018 neu 2019.

‘Tegwch’

Dywedodd Ian Blackford fod rhaid i’r ddadl dros refferendwm arall fod yn seiliedig ar “degwch”, gan dynnu sylw at bolisïau “niweidiol” y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Dywedodd wrth bapur newydd y Sunday Herald: “Dw i’n credu bod yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i ddatganiad Nicola yw ein bod ni wedi symud y ffocws oddi ar yr amserlen nawr a dw i’n fodlon fod hynny’n rhoi’r cyfle i ni drafod yr egwyddorion sylfaenol ac i drafod sut olwg fyddai ar Alban annibynnol.

“A dw i’n croesawu hynny dros y blynyddoedd i ddod.”

‘Ddim yn gwrando’

Ond yn ôl y Ceidwadwyr, dydy’r SNP ddim yn gwrando ar ddymuniadau Albanwyr.

Dywedodd llefarydd cyllid Ceidwadwyr yr Alban, Murdo Fraser: “Mae’r sylwadau diweddaraf hyn gan yr SNP yn profi unwaith ac am byth y byddan nhw o hyd yn rhoi annibyniaeth yn gyntaf.

“Er i bleidleiswyr anfon neges glir atyn nhw eleni eu bod nhw wedi diflasu ar yr obsesiwn sydd ganddyn nhw ynghylch annibyniaeth, dydy’r SNP jyst ddim yn gwrando.”

Mae Llafur yr Alban wedi ategu sylwadau Murdo Fraser, wrth i lefarydd economi’r blaid, Jackie Baillie ychwanegu bod yr SNP yn “esgeuluso ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a’n heconomi sy’n wynebu anawsterau” a bod Albanwyr yn “haeddu gwell”.