Bydd arbenigwyr yn cael eu galw i asesu effaith mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd ar y Deyrnas Unedig wrth i’r Llywodraeth geisio cyflwyno system fewnfudo wedi Brexit.

Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn comisiynu’r Pwyllgor Cynghorol ar Fewnfudo i gynnal dadansoddiad manwl ar rôl dinasyddion o Ewrop yn economi a chymdeithas gwledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r astudiaeth gynnwys lefelau sgiliau pobol, lle maen nhw’n byw ac yn gweithio o fewn y Deyrnas Unedig a gweithwyr tymhorol.

Yn ôl Amber Rudd, oedd yn ysgrifennu yn y Financial Times, mae am i Brydain “barhau i ddenu’r mewnfudwyr gorau a mwyaf disglair o ledled y byd.”

Ychwanegodd hefyd fod y Llywodraeth yn awyddus i “barhau i groesawu’r sawl sy’n gwneud y Deyrnas Unedig yn lle mor llewyrchus i fyw.”

Bydd disgwyl i’r asesiad ystyried yr effaith bosib y byddai llai o fewnfudwyr yn cael ar economi a chymdeithas.

Disgwyl cwblhau’r asesiad yn 2018

Bydd gofyn i’r pwyllgor gyflwyno eu casgliadau erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf – saith mis cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ym mis Mawrth 2019.

Mae’r gwrthbleidiau wedi codi cwestiynau dros amseru’r adolygiad, gan ddweud y dylai wedi digwydd blwyddyn yn ôl, yn syth wedi’r refferendwm.