Mae cost gofal plant dros gyfnod y gwyliau wedi dyblu yng Nghymru ers 2010, yn ôl y Blaid Lafur.

Dros Brydain oll mae’r gost wedi cynyddu gan 51%, gyda gogledd ddwyrain Lloegr â’r cynnydd uchaf (111%) , a Chymru yn ail (100%).

Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi yn sgil dadansoddiad y Blaid Lafur o arolygon yr elusen Family and Childcare Trust.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Gysgodol, Angela Rayner, mae’r sefyllfa wedi cael ei waethygu gan gwymp mewn cyflogau yn ystod yr un cyfnod.

“Mae’r Torïaid yn syml wedi methu rhieni sydd yn gweithio,” meddai Angela Rayner. “Rhieni sydd wedi gweld cost eu gofal plant yn saethu i fyny, eu cyflogau yn cwympo, a’u Llywodraeth yn methu â chynnal y gofal sydd angen.”

“Camgymeriad ffôl”

Mae’r Ceidwawwyr wedi taro yn ôl gan ddweud fod Llafur wedi gwneud “camgymeriad ffôl” trwy ddatgelu’r ffigurau gan mai nhw sydd yn gyfrifol am ofal plant yng Nghymru.

“Mae’r camgymeriad ffôl yma gan Lafur yn dangos eu methiannau nhw o ran gofal plant gan fod teuluoedd yng Nghymru – lle’r Blaid Lafur sy’n rheoli -yn wynebu dwywaith y cynnydd yng nghostau nag sydd yn Lloegr,” meddai’r Gweinidog dros Deuluoedd a Phlant, Robert Goodwill.