Llun: PA
Er budd prosiectau’r dyfodol, rhaid i Lywodraeth Cymru “ddysgu gwersi” o brosiect trechu tlodi sydd yn dod i ben, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Daw sylw’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn sgil  adolygiad o brosiect Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

Cymunedau yn Gyntaf oedd rhaglen trechu tlodi blaenllaw Llywodraeth Cymru. Mae wedi para am bymtheg mlynedd a bydd yn dirwyn i ben yn raddol erbyn mis Mawrth 2018.

“Tasg amhosibl”

Mae’r Pwyllgor wedi tynnu sylw at sawl mater, gan gynnwys methiant Llywodraeth Cymru o ran trosglwyddo’r awenau i wasanaethau cyhoeddus, a sustem rheoli perfformiad “annigonol”  y rhaglen.

Mae hefyd yn dweud bod Cymunedau yn Gyntaf wedi wynebu “tasg amhosibl i bob pwrpas”

“Nid oedd gan un rhaglen unigol, yn enwedig un â ffocws ar ddatblygiad cymunedol, erioed y gallu i gael effaith sylweddol ar leihau tlodi ar raddfa leol neu genedlaethol,”  meddai’r adroddiad.

“Pryderu”

“Rydym yn pryderu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi ar gyfer gweithgareddau trechu tlodi yn y dyfodol, gan sicrhau bod cynnydd yn fesuradwy, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, a bod elfennau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf, a allai gael eu cyflwyno gan gyrff cyhoeddus eraill ac sy’n cael eu gwerthfawrogi’n lleol gael eu trosglwyddo i wasanaethau cyhoeddus eraill i’w cyflawni,” meddai  Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths.

“Nid yw’r angen am y gwasanaethau hyn wedi diflannu, ond yn wynebu ansicrwydd, rydym wedi clywed bod staff Cymunedau yn Gyntaf eisoes yn gadael i fynd i swyddi eraill.  Ni fydd yn hawdd disodli eu harbenigedd a’u perthnasoedd.”

Llywodraeth Cymru

“Er gwnaeth rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gael effaith positif ar nifer o unigolion, nid yw wedi cael effaith sylweddol ar lefelau tlodi yng Nghymru sy’n parhau i fod yn uchel,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

I fynd i’r afael â’r problemau yma mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyflwyno cronfa etifeddiaeth £6 miliwn y flwyddyn ym mis Ebrill 2018, fyddai’n galluogi elfennau o’r rhaglen i barhau.

Hefyd bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn derbyn £4 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn o 2017/18 ymlaen, ac mi fydd grant £12 miliwn y flwyddyn yn cael ei lansio ar gyfer pobol sydd yn cael trafferth cael gwaith.

“Yr hyn aeth o’i le”

“Er ein bod yn croesawu adroddiad y pwyllgor, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â chraidd yr hyn aeth o’i le gyda Cymunedau yn Gyntaf,” meddai Ysgrifennydd Cymunedau Cysgodol y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

“Er gwaetha’r rhybuddion, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu’r hyn yr oedd Cymunedau yn Gyntaf i fod i’w ddarparu – sef perchnogaeth gymunedol er mwyn annog newid positif. Mae sawl adroddiad wedi amlygu sut all darpariaeth o’r math yma lwyddo – ond cafodd y rhain eu hanwybyddu gan Lafur.”