Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd, ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns (Llun: Golwg360)
Mae’n rhaid i Ysgrifennydd Amgylchedd Prydain ddechrau cynnal cyfarfodydd gyda gweinidogion amaeth gwledydd Prydain, meddai Ysgrifennydd Amaeth Cymru.

Dyna un o’r negeseuon i Michael Gove gan Lesley Griffiths wrth i’r ddau gyfarfod yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw.

Dyma oedd y tro cynta’ i Lesley Griffiths gyfarfod y gweinidog Prydeinig, Michael Gove, sydd eisoes wedi canslo dau gyfarfod oedd i gyda gweinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

‘Hollbwysig’

Mae cyfarfodydd misol i fod i gael eu cynnal ond, ar ei ddiwrnod cynta’ yn ei swydd newydd, roedd Michael Gove wedi canslo cyfarfodydd misoedd Mehefin a Gorffennaf.

“Mae’n hollbwysig fod y cyfarfodydd pedair-ochrog yma’n digwydd cyn gynted â phosib,” meddai Lesley Griffiths wrth Radio Wales heddiw.

“Mae angen i ni gael y cyfarfodydd yma er mwyn i Lywodraeth Prydain yn gwybod beth yw ein barn. Mae geiriau’n iawn, ond bellach mae angen gweithredu.”