Bydd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn dychwelyd i Frwsel heddiw (Gorffennaf 20) wrth i’r rownd ddiweddaraf o’i drafodaethau  â phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, ddod i ben.

Hyd yma mae trafodaethau Brexit wedi canolbwyntio ar faterion sy’n cynnwys hawliau dinasyddion, y ffin rhwng Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â’r gost o adael yr Undeb.

Dydy’r ddau ochr ddim yn debygol o ddod i gytundeb dros y materion yma yn fuan ac mae mater y gost o adael yr undeb – neu’r “bil ysgariad”- wedi arwain at lawer o anghytuno.

Er hynny, mae gweinidogion yn gobeithio cytuno ar ddull o gyfrifo cost gadael yr undeb erbyn cynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref.

Pan fydd gweinidogion yn dod i gytundeb dros y materion yma mi fydd ail gyfnod y trafodaethau yn dechrau sef trafodaethau dyfodol y berthynas masnachu rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae cyfarfod David Davis yn cyd-daro â thaith yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, i Japan i drafod masnach, a thaith yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, i’r Swistir.