Vince Cable
Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gadarnhau yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 20) mai Vince Cable ydi arweinydd newydd y blaid.

Fe fydd y broses o enwebu yn dod i ben heddiw, ac mae Aelodau Seneddol blaenllaw arall y blaid eisoes wedi nodi nad ydyn nhw’n bwriadu ceisio am y swydd.

Ymddiswyddodd cyn-Arweinydd y blaid, Tim Farron, y mis diwethaf gan nodi fod “arwain a bod yn Gristion yn amhosib”.

Mewn datganiad yn nodi ei fod yn sefyll am y swydd, dywedodd Vince Cable, 74, ei fod yn barod “i weithio â phobol o’r un feddylfryd mewn pleidiau eraill”.

Hefyd, mae’n dweud ei fod eisiau sicrhau bod opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd os na fydd dêl dda yn cael ei tharo yn ystod trafodaethau Brexit.