Mae Arweinydd newydd Cyngor Kensington a Chelsea wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo, yn dilyn cyfarfod â phobol wnaeth oroesi tân Tŵr Grenfell.

Roedd protestwyr yn gweiddi “ymddiswyddwch” a “gwarth” wrth i Elizabeth Campbell gael ei phenodi yn Arweinydd yn ystod y cyfarfod cyhoeddus.

Dyma oedd cyfarfod lawn cyntaf Cyngor Kensington a Chelsea ers y trychineb pum wythnos yn ôl.

Dywedodd Elizabeth Campbell ei bod yn gobeithio adennill hyder y cyhoedd “cam wrth gam” gan nodi y byddai ymchwiliad mewn i ymateb y cyngor i’r trychineb yn cael ei chynnal.

Daeth y cyfarfod i ben yn gynnar pan lewygodd un o’r preswylwyr oedd yn bresennol.

Mae o leiaf 80 o bobol naill ai ar goll neu’n farw yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell ar 14 Mehefin.