Mae ymgyrchwyr mewn cadeiriau olwyn wedi bod yn protestio yn erbyn toriadau i fudd-daliadau trwy rwystro’r fynedfa i siambr Tŷ’r Cyffredin.

Bu’n rhaid i swyddogion heddlu ffurfio llinell wrth fynedfa cyntedd y siambr, wrth i aelodau grŵp ‘Disabled People Against Cuts’ ymgynnull yno.

Dywedodd y grŵp eu bod eisiau gweld toriadau gofal cymdeithasol yn dod i ben, a’r gronfa byw’n annibynnol yn cael ei ailgyflwyno.

“Dyma neges i Theresa May, gewch chi ddim heddwch tan fydd yna gyfiawnder,” bloeddiodd y grŵp. “Rhowch ddiwedd i farwolaethau oherwydd toriadau budd-daliadau.”

Ar un adeg mi wnaeth Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, cyfarch aelodau o’r grŵp. Daeth y protest i ben ar ôl awr.