Dr Ashley Frawley (Llun: Byddwch yn Rhesymol)
Mae grŵp ymgyrchu wedi lansio ymgyrch ac wedi sefydlu deiseb er mwyn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn drosedd i daro plant.

Mi fyddai cynlluniau’r Llywodraeth yn arwain at “filoedd o rieni cyffredin” sy’n disgyblu eu plant yn cael eu labelu fel “pobol dreisgar sy’n cam-drin plant,” yn ôl y grŵp Byddwch yn Rhesymol.

Mae’r mudiad hefyd yn dweud y byddai rhieni yn wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar am roi “cerydd rhesymol”, ac yn mynnu y byddai’n tynnu sylw rhag plant sydd wir yn cael eu cam-drin.

Ar ran yr ymgyrch, dywedodd Lowri Turner: “Mae’r bobl sy’n galw am y newid hwn yn defnyddio iaith eithafol a chamarweiniol. Maen nhw’n ceisio rhoi’r argraff bod smac ysgafn ar gefn y coesau gan fam gariadus yr un peth â churo plant. Oes unrhyw un wir yn credu nad yw’r math yna o gam-drin treisiol eisoes yn anghyfreithiol?”

“Os nad yw’r Llywodraeth yn gallu dweud y gwahaniaeth, ni ddylent fod yn gwneud cyfraith amdano.”

Yn ôl canlyniadau pôl piniwn sydd wedi ei gyhoeddi gan y grŵp mae 74% o bobol yn credu y byddai’r gwaharddiad yn arwain at “rieni rhesymol” yn cael eu cosbi, ac yn credu na fyddai’n mynd i’r afael â’r broblem o gam-drin plant.

“Ymyrraeth ddifrifol”

“Am ryw reswm, mae magu plant yn cael ei drin fel sail pob problem yn ein cymdeithas,” meddai’r Arbenigwraig Polisi Cymdeithasol o Brifysgol Abertawe, Dr Ashley Frawley, yn lansiad yr ymgyrch.

“Mae pwysau mawr ar rieni ar hyn o bryd, does dim angen yr ofn ychwanegol o gael eu gwahanu oddi wrth eu plant oherwydd mae rhywun yn y Llywodraeth yn digwydd anghytuno gyda’r ffordd maen nhw’n magu eu plant.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ymwrthod â’r temtasiwn i ymyrryd yn y ffordd mae rhieni yn magu eu plant. Mae newid y ddeddf yn ymyrraeth ddifrifol mewn bywyd teuluol, ac yn hollol ddiangen, gan fod y gyfraith eisoes yn amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin.”

“Magu plant mewn modd positif”

Mae Llywodraeth Cymru am waredu’r amddiffyniad cyfreithiol dros rieni sydd yn cosbi eu plant yn gorfforol ac mi fydd ymgynghoriad yn cael ei chynnal yn ystod y 12 mis nesaf.

Methodd ymgais yn y Cynulliad i gyflwyno gwaharddiad yn erbyn taro plant, ym mis Mawrth 2015. Ers hynny mae Plaid Cymru a Llafur wedi cytuno i ymrwymo i geisio cyflwyno’r gwaharddiad.

“Rydym wedi ymrwymo i ennill cefnogaeth rhyng-bleidiol ar gyfer deddfwriaeth er mwyn gwaredu amddiffyniad cosbi rhesymol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Bydd hyn yn rhan o’n gwaith ehangach er mwyn hybu rhieni i fagu plant mewn modd positif.”

“Mi fyddwn yn ymgynghori’n llawn dros y cynigion yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn sicrhau bod daliadau ystod eang o bobol yn cael eu derbyn. Byddwn yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gwneud bywydau rhieni a phlant yn well.”