David Davis Ysgrifennydd Brexit (Steve Punter CCA2.0)
Fe fydd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn ail-ddechrau’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel heddiw.

Mae disgwyl iddo geisio sicrhau negodwyr yr UE ynglŷn â chynlluniau Prydain i ddiogelu hawliau dinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig (DU).

Fe fydd David Davis yn dychwelyd i Frwsel ar gyfer ail-rownd y trafodaethau gyda phrif drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd Michel Barnier.

Daw’r cyfarfod wrth i’r cecru ymhlith gweinidogion y DU gynyddu yn sgil strategaeth Brexit y Llywodraeth.

Dros y penwythnos fe wnaeth y Canghellor Philip Hammond gyhuddo aelodau o’r Cabinet o geisio tanseilio ei agenda ar gyfer Brexit a fyddai’n rhoi’r pwyslais ar swyddi a’r economi.

Yn ôl adroddiadau, roedd gweinidog arall  o’r Cabinet, sydd heb gael ei enwi, wedi honni bod Philip Hammond yn rhan o gynllwyn gan “y Sefydliad” i atal Prydain rhag gadael yr UE.

Yn y cyfamser mae’r berthynas rhwng Llundain a Brwsel wedi suro yn dilyn cyfres o sylwadau cyhoeddus.

Yn ogystal â hawliau dinasyddion, mae disgwyl i’r trafodaethau ganolbwyntio ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth.