Paentiad gan Syr Winston Churchill (Llun: Sotheby's/PA Wire)
Fe allai paentiad gan Syr Winston Churchill gael ei werthu am hyd at £100,000 mewn ocsiwn yn Sotheby’s yn Llundain.

Roedd yr actores Vivien Leigh yn hoff iawn o ‘Roses In a Glass Vase’, ac roedd y paentiad gyferbyn â’i gwely ar ôl i gyn-Brif Weinidog Prydain ei roi’n anrheg iddi yn 1951.

Cafodd ei roi iddi yn dilyn parti i ddathlu pen-blwydd Syr Laurence Olivier, gŵr yr actores.

Cafodd ei baentio gan ddefnyddio blodau yr oedd e wedi’u casglu o’i ardd yn Chartwell yn Swydd Gaint.

Bydd y paentiad yn cael ei arddangos yn Sotheby’s cyn yr arwerthiant ar Fedi 26.

Paentiad gan Vivien Leigh

Adeg yr arwerthiant, fe fydd paentiad gan yr actores Vivien Leigh ei hun yn cael ei ddadorchuddio.

Fe fydd y paentiad o dirlun yr Eidal yn cael ei werthu, ynghyd â chwdyn cynfas, bocs pren ac îsl yr actores.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi cael ei hysbrydoli i baentio ar ôl darllen llyfr gan Syr Winston Churchill ar ei hoffter o gelf.

Gallai copi o’r llyfr sy’n cynnwys ei ysgrifen werthu am hyd at £2,000.

Fe fydd llythyron a chartwnau hefyd yn rhan o’r casgliad fydd yn cael ei werthu.

Bydd y paentiadau’n cael eu harddangos yn Sotheby’s yn Llundain o Orffennaf 17 i Awst 11.