Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan (Llun: Randam CCA2.0)
Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi annerch degau o filoedd o bobol mewn rali yn Istanbul, flwyddyn union ar ôl gwrthryfel aflwyddiannus i geisio’i ddisodli.

Dywedodd yn ei anerchiad y byddai’n “rhwygo pennau” grwpiau brawychol a’r sawl oedd wedi sefydlu’r gwrthryfel yn ei erbyn.

Teyrngedau

Roedd y rali’n gyfle hefyd i gofio am 250 o bobol a fu farw ar Orffennaf 15 y llynedd wrth geisio atal y gwrthryfel.

Fe ddadorchuddiodd gofeb iddyn nhw cyn hedfan i Ankara ar gyfer sesiwn arbennig yn y senedd flwyddyn union i’r eiliad y digwyddodd y ffrwydrad oedd wedi’u lladd.

Fe agorodd ail gofeb yn Ankara ar yr un pryd.

‘Rhwygo pennau’

Dywedodd nad dyma fyddai’r “ymosodiad olaf” yn erbyn y llywodraeth ac am y rheswm hwnnw y byddai’n “rhwygo pennau’r bradwyr hyn i ffwrdd”.

Yn ystod y gwrthryfel, cafodd o leiaf 30 o bobol eu lladd yn Istanbul, a chafodd mwy na 2,000 o bobol eu hanafu ledled Twrci. Cafodd 35 o wrthryfelwyr eu lladd.

Dywedodd Recep Tayyip Erdogan ei fod e am weld y rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dedfrydu i farwolaeth, ac y byddai’n ail-gyflwyno’r gosb eithaf er mwyn gwireddu hynny, pe bai e’n cael sêl bendith y senedd.

Ers y gwrthryfel, fe fu argyfwng yn y wlad, ac mae disgwyl i hynny gael ei ymestyn ddydd Llun.

Ers dechrau’r argyfwng, mae mwy na 110,000 o bobol wedi colli eu swyddi yn Nhwrci.