Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis
Mae un o gynghorwyr newydd sir Conwy wedi cefnu ar chwip Plaid Cymru er mwyn derbyn swydd ar gabinet y Cyngor.

Mae’n rhaid i Garffild Lloyd Lewis ildio chwip y blaid oherwydd nad yw Plaid Cymru wedi cymeradwyo’r cabinet a’r cydweithio gydag aelodau’r blaid Geidwadol.

Cafodd y cabinet ei sefydlu ym mis Mehefin eleni gan Arweinydd y Cyngor, Gareth Jones (y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru), ond cafodd ei wrthod gan bwyllgor gwaith Plaid Cymru oherwydd ei fod yn cynnwys cynghorwyr Torïaidd.

Garffild Lloyd Lewis yw’r trydydd aelod i beidio ag eistedd yn enw Plaid Cymru, gan ddilyn yr Arweinydd, Gareth Jones a’r cynghorydd Liz Roberts. Bydd Garffild Lloyd Lewis yn gyfrifol am bortffolio addysg y Cyngor.

“Braint fawr”

“Mae’n fraint enfawr cael ymuno â chabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn fraint ychwanegol cael bod yn gyfrifol am ran helaeth o’r portffolio addysg,” meddai Garffild Lloyd Lewis wrth golwg360.

“Faswn i ddim yn gwneud be dw i’n wneud os na fyddai gen i ffydd lawn yn Gareth [Jones].”

Mae golwg360 wedi gofyn i Plaid Cymru am ymateb.