Awyren ryfel
Ar ôl gweld tystiolaeth gudd, mae’r Uchel Lys wedi gwrthod honiadau bod Llywodraeth Prydain yn gweithredu’n anghyfreithlon drwy beidio atal gwerthiant arfau o’r Deyrnas Unedig i Saudi Arabia.

Cafodd yr achos ei ddwyn yn erbyn y Llywodraeth gan y Mudiad Ymgyrchu yn Erbyn Masnachu Arfau (CAAT) sydd yn honni bod awyrennau rhyfel a bomiau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu defnyddio gan Saudi Arabia yn ystod y gwrthdaro yn Yemen.

Mae’r grŵp wedi beirniadu penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol i beidio atal trwyddedau allforio arfau ac i barhau i roi trwyddedau newydd.

Dywed CAAT bod mwy na 10,000 o bobl wedi’u lladd ers 2015 wrth i glymblaid, sy’n cael ei arwain gan Saudi Arabia, ymyrryd yn y rhyfel cartref yn Yemen. Mae’r mudiad yn cyhuddo Llywodraeth y DU o fod yn euog o dorri cyfreithiau hawliau dynol rhyngwladol.

Ond mae beirniaid yn yr Uchel Lys yn Llundain wedi gwrthod cais yr ymgyrchwyr i gynnal adolygiad barnwrol, gan ddweud nad oedd penderfyniad y Llywodraeth i barhau i werthu arfau yn anghyfreithlon nac yn afresymol.

Dywedon nhw fod tystiolaeth gudd, nad oedd wedi’i wneud yn gyhoeddus oherwydd rhesymau diogelwch, yn cynnig “tystiolaeth ychwanegol” oedd yn cefnogi eu dyfarniad.

Dywedodd CAAT y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad “siomedig” y llys.

Goblygiadau

Mae’r dyfarniad yn bwysig ar sawl lefel ac mae’n bosib y bydd goblygiadau mawr i’r diwydiant arfau ym Mhrydain – diwydiant a allai fod yn bwysicach yn dilyn Brexit.

Dyma un o’r achosion mwyaf hyd yma, lle mae beirniaid wedi cynnal sesiynau preifat er mwyn clywed tystiolaeth gyfrinachol.