Theresa May (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin yfory mae disgwyl i Theresa May gydnabod ei cholled yn yr Etholiad Cyffredinol gan alw ar ei gwrthbleidiau i gynnig “syniadau a safbwyntiau.”

Fe fydd hi’n cyfeirio at y ffaith iddi golli ei mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol gan olygu y bu’n rhaid iddi daro bargen â phlaid y DUP o Ogledd Iwerddon.

Ac fe fydd hefyd yn dweud ei bod am “ddadlau a thrafod” gyda’i gwrthwynebwyr o ran polisïau’r Deyrnas Unedig a Brexit.

‘Syniadau a safbwyntiau’

Daw hyn wrth i’r Mesur Diddymu gael ei gyhoeddi’r wythnos hon, ac mae ei haraith yn cael ei weld fel ymgais i geisio cefnogaeth Llafur i ddeddfu ar Brexit ymysg honiadau fod Aelodau Seneddol o’i phlaid ei hun yn bwriadu gwrthwynebu elfennau o’i strategaeth.

Mae disgwyl iddi alw ar y pleidiau i “ddod ymlaen gyda’u syniadau a’u safbwyntiau am sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r heriau fel gwlad.”

“Efallai na fyddwn ni’n cytuno ar bopeth, ond drwy ddadl a thrafod …. gall syniadau gael eu hegluro a’u gwella gan ddod o hyd i well ffordd ymlaen,” meddai.

Beirniadaeth y gwrthbleidiau

Mae Ysgrifennydd Cymunedau’r wrthblaid, Andrew Gwynne, wedi cyhuddo Theresa May o “redeg allan o syniadau” ac am hynny – “mae’n rhaid iddyn nhw erfyn am gynigion polisi gan Lafur.”

Er hyn, mae llefarydd Brexit y Democratiaid Rhyddfrydol, Tom Brake, wedi cyhuddo Llafur o gefnogi “Brexit caled” eisoes, gan feirniadu Jeremy Corbyn o “beidio â chyfrannu.”