Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ddweud wrth ginio glowyr yn Swydd Durham heno fod ei blaid yn barod i lywodraethu.

Fe fydd e’n beirniadu “rhagrith ac anonestrwydd” y Prif Weinidog, Theresa May yn ystod un o ddigwyddiadau mwya’r undebau llafur yn Ewrop.

Mae disgwyl iddo fe ddweud y byddai ei lywodraeth yn rhoi terfyn ar lymder ac yn gwaredu’r cap ar godiadau cyflog y sector cyhoeddus – ond mai undod ei blaid sydd bwysicaf ar hyn o bryd.

Fe fydd e’n dweud wrth y gynulleidfa hefyd fod trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain yn “ganlyniad ofnadwy” torri gwariant cyhoeddus.

Bydd e’n dweud: “Y rhagrith sy’n troi’r stumog lle, yn yr ymosodiadau brawychol neu’r tân yn Nhŵr Grenfell, mae’r gwleidyddion Ceidwadol hyn yn rhoi geiriau o ganmoliaeth gynnes ac yna, wythnos yn ddiweddarach, maen nhw’n pleidleisio o blaid torri incwm yr union bobol hynny, ar ôl torri swyddi miloedd o’u cydweithwyr.

“Mae pobol wedi diflasu ar ragrith ac anonestrwydd y Blaid Geidwadol. Mae arian ar gael bob tro maen nhw am ddechrau rhyfel.

“Mae arian ar gael i dorri trethi busnesau mawrion neu’r bobol gyfoethocaf.

“Mae arian ar gael bob amser ar gyfer ysgolion gramadeg neu’r cynllun hurt diweddaraf i roi hwb i’w ffrindiau.”

Fe fydd e’n dweud y byddai’r Blaid Lafur yn “adeiladu Prydain decach, fwy cyfartal”.

Dyfodol aelodau seneddol

Mae Jeremy Corbyn wedi cryfhau ei safle fel arweinydd y blaid ar ôl perfformiad cadarn yn yr etholiad cyffredinol, ond mae rhai aelodau seneddol yn gofidio y gallen nhw gael eu disodli gan aelodau sydd ymhellach i’r chwith na nhw.

Roedd 49 o’i aelodau seneddol wedi pleidleisio yn ei erbyn wrth iddo fe geisio sicrhau y byddai Prydain yn aros yn y farchnad sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i hyd at 200,000 o bobol ymgasglu ar gyfer y cyfarfod yn Swydd Durham heno, gyda miloedd o bobol yn dod ynghyd i glywed areithiau yn ystod y prynhawn.