Yr Arlywydd Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cael “cyfarfod rhagorol” ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Mae’n un o nifer o gyfarfodydd heddiw, wrth i’r Arlywydd orffen ei daith fyd-eang.

Ymhlith y rhai eraill y bydd e’n cyfarfod â nhw yn ystod Uwchgynhadledd G20 yn yr Almaen mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May ac Arlywydd China, Xi Jinping.

Rwsia

Dyma sylwadau cyntaf yr Arlywydd Donald Trump ers iddo fe gynnal trafodaethau â Vladimir Putin, lle cododd e fater ymyrraeth Rwsia yn etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau y llynedd a’r cynlluniau ar gyfer cadoediad yn Syria.

Roedd disgwyl hefyd i Ogledd Corea a’u rhaglen niwclear, masnach ryngwladol a gwrth-frawychiaeth fod yn uchel ar yr agenda.

Prydain

Wrth gyfeirio at ei “berthynas arbennig” gyda Phrydain, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump ei fod e a’r Prif Weinidog Theresa May yn ceisio dod i gytundeb “mawr a phwerus”.

Theresa May oedd yr arweinydd cyntaf i deithio i Washington i gyfarfod â Donald Trump ar ôl iddo fe gael ei urddo’n Arlywydd, ac fe ddywedodd yr Arlywydd y byddai’n teithio i Lundain yn fuan.

Cyfarfodydd eraill

Mae disgwyl iddo fe hefyd gyfarfod ag arweinwyr Japan, Indonesia a Singapore.

Mae e eisoes wedi mynychu cyfarfod â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, lle cafodd cronfa newydd ei sefydlu i gefnogi menywod yn y byd busnes.

Mae’r gronfa eisoes wedi codi £252 miliwn.

Fe fydd yr Arlywydd Donald Trump yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau cyn teithio i Ffrainc yr wythnos nesaf ar gyfer dathliadau Diwrnod Bastille ym Mharis.