Stormont Llun: PA
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon gyhoeddi beth fydd camau nesaf y Llywodraeth ar ôl i’r pleidiau fethu a dod i gytundeb ynglŷn â rhannu grym yn Stormont o fewn y terfyn amser.

Fe fydd James Brokenshire yn rhoi diweddariad i Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma ar ôl i’r prif bleidiau ym Melffast fethu a tharo bargen ar ffurfio llywodraeth wythnos ddiwethaf.

Mae ei opsiynau’n cynnwys gosod terfyn amser arall ar gyfer y trafodaethau sydd wedi parhau am fisoedd, galw ail etholiad brys, neu gael eu rheoli gan Lundain unwaith eto.