Mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur yn San Steffan, Jon Ashworth wedi dweud nad oes awydd am ail refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd nad oes yna gonsensws ar y ffordd ymlaen ar hyn o bryd ymhlith aelodau seneddol y blaid.

Ac fe ategodd e farn dirprwy arweinydd y blaid, Tom Watson fod yr arweinydd Jeremy Corbyn yn sicr o gadw ei swydd am y tro ac na fyddai’n wynebu her am yr arweinyddiaeth yn y dyfodol agos.

Daw ei sylwadau ar ôl honiadau bod y blaid wedi’i hollti ar fater Brexit, gyda bron i 50 o aelodau seneddol yn mynd yn groes i Chwip y blaid i gefnogi gwelliant yn galw am aros yn y farchnad sengl.

Dywedodd Jon Ashworth wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dw i wedi crybwyll [ail refferendwm] yn y gorffennol ond dw i ddim yn credu bod gan y safbwynt hwnnw gonsensws eang bellach.

“Roedd yn rhywbeth y gwnes i ei grybwyll mewn trafodaethau megis yr un yma mewn cyfweliad unwaith, ond mae’n amlwg nad oes awydd am hynny, nid fel y gallaf i ei synhwyro beth bynnag.”

Llafur yn cryfhau

Yn ôl pôl piniwn Opinium, mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur yn 45%, o’i gymharu â 39% i’r Ceidwadwyr. Ond yn ôl Survation, mae 41% o gefnogaeth gan y Ceidwadwyr a 40% i Lafur.

Enillodd Llafur 40% o’r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Dywedodd Tom Watson wrth bapur newydd yr Observer fod “safle Jeremy fel arweinydd yn gwbl gadarn”.

Ychwanegodd Jon Ashworth fod “argyfwng” o fewn y Blaid Geidwadol bellach.