Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu tynnu allan o gytundeb sy’n galluogi gwledydd tramor i bysgota yn nyfroedd gwledydd Prydain, yn ôl adroddiadau.

Fe fydd yn cymryd dwy flynedd i adael Confensiwn Pysgodfeydd Llundain, a gafodd ei lofnodi yn 1964 cyn i Brydain ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y cytundeb, gall llongau o Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Almaen, Iwerddon a’r Iseldiroedd bysgota o fewn chwech i 12 milltir o arfordir gwledydd Prydain.

Mae yna reoliadau mewn grym fel rhan o’r cytundeb sy’n pennu faint o bysgod all gwledydd tramor eu dal rhwng 12 a 200 milltir o’r arfordir.

‘Cyfrifoldeb llawn’

Yn ôl gweinidogion Llywodraeth Prydain, bydd y drefn newydd yn rhoi rheolaeth dros bysgodfeydd yn ôl yn eu dwylo nhw.

Bydd hefyd yn golygu bod cychod o wledydd Prydain hefyd yn colli’r hawl i bysgota rhwng chwech i 12 o filltiroedd oddi ar arfordir y gwledydd eraill sy’n rhan o’r cytundeb.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove fod gadael y cytundeb yn “foment bwysig” er mwyn “cymryd rheolaeth yn ôl o’n polisi pysgota”.

“Mae’n golygu y byddwn ni’n gallu penderfynu pwy sy’n cael mynediad i’n dyfroedd am y tro cyntaf ers dros 50 o flynyddoedd.”

Ymateb cymysg

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Pysgotwyr wedi croesawu’r newyddion, ac maen nhw’n dweud y bydd yn hwb i’r diwydiant sy’n werth £775 miliwn i economi gwledydd Prydain.

Ond mae Greenpeace UK wedi rhybuddio na fydd gadael y cytundeb yn unig yn ddigonol er mwyn gwella’r diwydiant yn y dyfodol.