Gerry Adams
Mae llywydd Sinn Fein wedi dweud nad ydyw’n disgwyl y bydd y pleidiau’n taro bargen ar ffurfio llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, cyn dydd Llun.

Yn ol Gerry Adams, mae’r drws yn parhau ar agor, ond nad oes unrhyw synnwyr o frys wrth geisio llunio cytundeb ar gyfer dyfodol gweinyddiaeth Stormont.

Maen nhw eisoes wedi methu â chyrraedd cyfres o ddedleins.

“Dw i ddim yn credu y bydd dêl erbyn dydd Llun,” meddai Gerry Adams.

“Dydi hi ddim yn ymddangos fod brys ar y DUP, nac awydd go iawn i ddelio â materion sy’n ymwneud â hawliau sydd wrth wraidd yr anghytuno a’r hyn ydan ni’n ei drafod.”

Mae’r hawliau hynny’n ymwneud â Deddf yr iaith Wyddeleg, Deddf Hawliau, statws cyfartal i bob math o briodas, a sut i oresgyn degawdau o drais.

“Oni bai eu bod nhw’n newid agwedd,” meddai Gerry Adams wedyn, “fedra’ i ddim gweld sut allwn ni ddod i gytundeb… ac rydan ni wedi dweud hyn wrthyn nhw yn glir.”