Stormont Llun: PA
Mae gan arweinwyr gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon hyd at brynhawn ma i ddod i gytundeb i rannu grym wrth i drafodaethau i adfer llywodraeth Stormont barhau.

Os nad ydyn nhw’n dod i gytundeb erbyn 4yp heddiw fe allai’r dalaith wynebu gael ei rheoli gan Lundain unwaith eto neu gynnal etholiad brys arall.

Mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon James Brokenshire wedi dweud y bydd na oblygiadau “sylweddol a difrifol” os yw’r pleidiau’n methu dod i gytundeb i rannu grym.

Yn ôl Sinn Fein mae’r DUP yn atal cytundeb drwy wrthod cyfaddawdu ac maen nhw wedi annog llywodraethau San Steffan ac Iwerddon i ymyrryd.  Ond mae llefarydd ar ran y blaid unoliaethol wedi dweud y byddai’r DUP yn fodlon ethol gweinidogion ddydd Iau.