Mae chwech o bobol wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â marwolaethau 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn 1989.

Bu farw’r cefnogwyr yn ystod gêm gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest, ac fe benderfynodd ail gwest y llynedd eu bod nhw wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

Mae David Duckenfield, oedd yn gyfrifol am blismona’r gêm, y cyn-brif gwnstabl Syr Norman Bettison a phedwar o bobol eraill wedi’u cyhuddo o droseddau’n ymwneud â’r trychineb.

Y cyhuddiadau

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod David Duckenfield wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 95 o bobol drwy esgeulustod difrifol.

Mae Norman Bettison wedi’i gyhuddo o bedwar achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r cyn-blismyn Donald Denton ac Alan Foster, a chyfreithiwr Heddlu De Swydd Efrog Peter Metcalf wedi’u cyhuddo o weithredu er mwyn gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, sy’n chwarae yn stadiwm Hillsborough, wedi’i gyhuddo o dair trosedd yn ymwneud â iechyd a diogelwch mewn stadiwm chwaraeon.

Mae ymchwiliad Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu i ymddygiad Heddlu West Midlands, oedd wedi arwain yr ymchwiliad gwreiddiol i ymddygiad Heddlu De Swydd Efrog, yn parhau.

Bydd pump o’r diffynyddion – ond nid David Duckenfield – yn mynd gerbron ynadon Warrington ar Awst 8.

Mae Barry Devonside – tad un o’r rhai a gafodd ei ladd, Christopher, oedd yn 18 oed – wedi croesawu’r newyddion yn dilyn cyfarfod fore heddiw.