Stormont
Mae gan weinidogion Gogledd Iwerddon tan ddydd Iau i ddod i gytundeb i ail-sefydlu’r eu Llywodraeth yn Stormont.

Yn ôl Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, mae angen sicrhau bod y pŵer yn cael ei rannu yn y llywodraeth i sicrhau bod eu harian ychwanegol yn cael ei “wario’n gywir er ein budd ni i gyd.”

Daw hyn wedi i arweinydd y DUP, Arlene Foster, gyhoeddi ddoe y byddai Gogledd Iwerddon yn derbyn £1 biliwn am ddod i gytundeb i gefnogi’r blaid Geidwadol yn y Llywodraeth yn San Steffan.

Ail-sefydlu’r Llywodraeth

Mae pryder wedi bod am lywodraeth Gogledd Iwerddon ers misoedd yn dilyn ffrae rhwng Sinn Fein a’r DUP am sut cafodd cynllun ynni gwyrdd ei reoli.

Mae Gogledd Iwerddon wedi bod heb Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog ers mis Ionawr pan ymddiswyddodd y diweddar Martin McGuinness dros y sgandal ynni adnewyddadwy.

Os na fyddan nhw’n llwyddo i ddod i gytundeb newydd erbyn dydd Iau i ailsefydlu’r llywodraeth, fe allai Gogledd Iwerddon wynebu gael eu rheoli’n uniongyrchol o San Steffan.