David Davis (Llun: Robert Sharp CCA 2.0)
Dydi Ysgrifennydd Brexit, llywodraeth Prydain, ddim yn sicr os bydd y Deyrnas Unedig yn gallu taro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Er bod David Davis yn “eithaf sicr” y byddai’n sicrhau dêl, mae hefyd wedi gadael y drws yn agored i’r posibilrwydd y byddai’n gorfod gadael bwrdd y drafodaeth yn waglaw.

Fe fyddai’r un fargen o gwbwl yn well na bargen a fyddai’n cosbi’r Deyrnas Unedig, meddai.

Ac fe ddaw sylwadau David Davies wedi i Ganghellor y Trysorlys, Philip Hammond, ddweud y byddai methu sicrhau yr un fargen yn “wael iawn, iawn” i Brydain.

“Dw i’n eithaf sicr y byddwn ni’n taro bargen… dw i ddim gant y cant. ond fedr neb fod yn hollol siwr… trafodaeth yw hi,” meddai David Davis ar raglen Andrew Marr ar BBC1 fore Sul.

“Dw i’n siwr y bydd bargen, ond a fydd hi’r fargen y baswn i’n dymuno ei chael, sy’n gytundeb masnach rhydd, yn gytundeb tollau, dw i’n weddol hyderus, ond alla’ i ddim bod yn siwr.”

Fe gyfaddefodd David Davis hefyd mai rhan o’i bortffolio oedd cynllunio ar gyfer cvanlyniad gwaethaf trafodaethau Brexit.