Jo Cox (Llun: PA)
Mae plant y diweddar Jo Cox wedi dadorchuddio plac arbennig er cof amdani yn San Steffan.

Mae Aelod Seneddol Batley & Spen yn Swydd Efrog yn cael ei chofio ychydig dros flwyddyn ar ôl iddi gael ei llofruddio gan Thomas Mair yn ei hetholaeth.

Cafodd y plac – neu arfbais – ei ddylunio gan Cuillin, sy’n chwech oed, a Lejla, sy’n bedair oed ac fe gafodd ei ddadorchuddio yn ystod diwrnod i’r teulu yn San Steffan.

Cafodd aelodau seneddol a staff San Steffan eu hannog i ddod â’u plant i’r digwyddiad, ac fe gafodd Sesiwn Holi arbennig ei gynnal gyda Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow ar sut mae’r Senedd yn gweithio o ddydd i ddydd.

Mae’r plac yn dwyn geiriau Jo Cox, “Mwy yn Gyffredin”, oedd yn rhan o’i haraith gyntaf yn y Senedd, pan ddywedodd ein bod yn “fwy unedig ac mae gennym fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu ni”.

Mae ei hangerdd am faterion menywod hefyd wedi’i adlewyrchu yn y plac, ynghyd â’i chariad at afonydd a mynyddoedd. Mae pedwar rhosyn yn cynrychioli pob aelod o’i theulu – dau rosyn coch ar gyfer y Blaid Lafur a dau rosyn gwyn ar gyfer Swydd Efrog.