Mae samplau cladin o 27 o adeiladau mewn 15 o awdurdodau lleol wedi methu profion diogelwch ers y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Daw’r cyhoeddiad wrth i waith gael ei gwblhau i adnabod adeiladu drwy wledydd Prydain sydd â chladin arnyn nhw fel yr un yn yr adeilad yng ngogledd Kensington.

Ymhlith yr ardaloedd sy’n defnyddio’r un cladin ac sydd wedi methu profion mae Portsmouth, Brent, Camden, Manceinion, Plymouth a Hounslow.

Mae trigolion mewn pedwar bloc o fflatiau yn Camden wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn pryderon am eu diogelwch.