"Cyhuddiadau difrifol" meddai Dr Dai Lloyd
Mae Plaid Cymru wedi galw ar yr heddlu i ymchwilio cyhuddiadau fod y Ceidwadwyr wedi torri’r gyfraith wrth ddefnyddio canolfan alwadau yn ne Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Yn ôl rhaglen Channel 4 News, mae’n bosib bod y Ceidwadwyr wedi torri cyfreithiau etholiad a chyfreithiau amddiffyn data trwy ddefnyddio cwmni Blue Telecoms, yng Nghastell Nedd, i ffonio etholwyr.
Gan ddefnyddio camerâu cudd mi wnaeth Channel 4 News ffilmio staff yn galw aelodau’r cyhoedd, gan ofyn cwestiynau wedi eu sgriptio oedd yn ymddangos fel eu bod yn ffafrio’r Torïaid.
“Cyhuddiadau difrifol”
“Dyma gyhuddiadau difrifol o beth all fod yn weithredoedd anghyfreithlon gan y Ceidwadwyr,” meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd.
“Os mae’r cyhuddiadau yn wir, mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr wedi ceisio annog pobol i bleidleisio amdanyn nhw trwy ddweud celwyddau. Gobeithiaf gwneith yr heddlu ymchwilio’r honiadau gan Channel 4 yn drylwyr.”
“Cyd-fynd â chanllawiau”
Mae’r Blaid Geidwadol wedi gwadu torri’r gyfraith: “Mae pleidiau gwleidyddol o bob lliw yn talu am ymchwil o’r farchnad ac am alwadau marchnata uniongyrchol.
“Roedd pob un o’r sgriptiau a gafodd eu darparu gan y blaid ar gyfer y galwadau yma yn cyd-fynd â chanllawiau diogelu data a chyfraith gwybodaeth.”