Gareth Clubb, Prif Weithredwr Plaid Cymru
“Aelodau llawr gwlad” oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i wrthwynebu clymblaid Cyngor Conwy, meddai Prif Weithredwr Plaid Cymru wrth golwg360.

Roedd pwyllgor gwaith Plaid Cymru wedi gwrthwynebu clymblaid â’r Ceidwadwyr mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf (Mehefin 16). Ond, yn ôl Gareth Clubb, dydi hi ddim yn deg disgrifio’r penderfyniad fel “gorchymyn llawdrwm ac annemocrataidd” a ddaeth gan y blaid yn ganolog.

“Penderfyniad yw hwn gan y pwyllgor gwaith,” meddai Gareth Clubb. “Mae’r pwyllgor wedi’i gyfansoddi o aelodau llawr gwlad yn ogystal â chynrychiolwyr o bob rhanbarth yng Nghymru – yn ogystal â swyddogion y blaid, corff sydd yn cynrychioli’r blaid yn ei ystyr ehangach.

“Mae’r pwyllgor gwaith wedi dod i’r casgliad nad oedd y drefn oedd wedi ei gynnig gan Gareth Jones (y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru sydd bellach yn gynghorydd ac yn arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) yn cyd-fynd â’r hyn oedden nhw’n dymuno gweld.”

Mae Gareth Clubb hefyd yn mynnu y bydd Gareth Jones yn parhau’n aelod o Blaid Cymru, er iddo adael grŵp y blaid ar Gyngor Conwy yn sgil y gwrthwynebiad i’r glymblaid.

Clymbleidiau

Mae rhai yn dadlau fod Plaid Cymru wedi sefydlu cynsail peryglus trwy wrthod clymblaid â’r Ceidwadwyr yng Nghonwy, ond yn ôl Gareth Clubb mae’r blaid yn “agored i glymbleidiau” – ac mae’n nodi Sir Gâr a Sir Fôn fel dau le lle mae hynny eisoes wedi digwydd.

“Does dim byd yn gyfansoddiadol yn erbyn neu o blaid unrhyw weithdrefn â’r Ceidwadwyr,” meddai Gareth Clubb wrth golwg360, ond mae’n gwrthod honiadau bod y blaid wedi ystyried cydweithio ag UKIP yn y gorffennol.

“Rhwtch llwyr ydy hynna wrth gwrs. Dydi Plaid Cymru ddim yn cymryd unrhyw fath o weithdrefn gyda UKIP er bod dim byd yn gyfansoddiadol yn erbyn hynny chwaith. Mae’n glir iawn i unrhyw un fod UKIP yn gwrth-fynd â ni.”