Christina Rees
Araith y Frenhines heddiw yw’r “enghraifft ddiweddaraf o amharch a difaterwch Torïaid Theresa May at Gymru”, yn ôl llefarydd Materion Cymreig y Blaid Lafur, Christina Rees.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad y bore yma, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Gastell-nedd nad oedd wedi cyrraedd “disgwyliadau isaf” ei phlaid hi ei hun, ac mae’n mynnu nad oes “unrhyw weledigaeth nac agenda ynghylch Cymru”.

Dywedodd nad yw hi wedi’i synnu gan “Aelod Seneddol Torïaidd heb fandad yma yng Nghymru”.

Gweledigaeth y Blaid Lafur

Fe fyddai’r Blaid Lafur, meddai Christina Rees, wedi sicrhau “agenda Llafur Cymru clir” pe baen nhw mewn grym, “gyda maniffesto poblogaidd Llafur Cymru wrth ei galon”.

Dywedodd mai blaenoriaethau ei phlaid yw:

–          cyflwyno isadeiledd ynni newydd, gan gynnwys Wylfa Newydd a morlynnoedd llanw

–          sicrhau bod mwy o blismyn ar y strydoedd

–          y lefelau uchaf erioed o arian i wasanaethau hanfodol

–          trawsnewid rhwydweithiau trafnidiaeth y gogledd

–          cytundeb datganoli mwy cynaladwy o fewn y Deyrnas Unedig ôl-Brexit

“Ni allai’r gwahaniaeth fod yn fwy amlwg rhwng y weledigaeth ddewr ac ysbrydoledig i Gymru a gyflwynwyd gan Carwyn Jones a Jeremy Corbyn, a’r llanast sâl, simsan a ddyfeisiwyd gan y Torïaid yn Llundain,” meddai Christina Rees wedyn.