Gareth Jones, arweinydd Cyngor Conwy (Llun y Cyngor)
Mae Arweinydd Cyngor Conwy yn ystyried gadael Plaid Cymru er mwyn parhau â’i arweinyddiaeth ar y Cyngor.

Daw hyn wedi i Gareth Jones gyhoeddi cabinet newydd yn cynnwys aelodau o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r grŵp annibynnol.

Wedi’r cyhoeddiad, daeth datganiad gan weithgor Plaid Cymru yn genedlaethol yn gwrthod ymgais i ffurfio clymblaid â’r Ceidwadwyr.

Fe fydd yr arweinydd yn cyflwyno ei achos ym mhwyllgor lleol Plaid Cymru heno, cyn ystyried ei ddyfodol gyda’r blaid.

‘Hepgor aelodaeth’

“Os ydw i eisiau dal ati, a dw i’n bwriadu dal ati fel arweinydd … dw i ddim yn gweld y medra i wneud hynny yn enw Plaid Cymru,” meddai Gareth Jones wrth golwg360.

Petai’r pwyllgor lleol yn gwrthod ei ymgais dywedodd y byddai’n “ystyried yn ofalus fy sefyllfa” gan bwysleisio mai gweithgor cenedlaethol Plaid Cymru sydd â’r gair olaf.

Am hynny dywedodd – “alla i ddim diystyru’r penderfyniad a wnaed yn genedlaethol, felly os ydw i am ddal arweinyddiaeth Conwy, mae’n rhaid imi hepgor aelodaeth Plaid Cymru.”

“Yn naturiol, byddai’n flin gen i golli aelodaeth Plaid Cymru,” meddai gan ddweud ei fod yn cynnal yr un egwyddorion sylfaenol â’r blaid sef “hyrwyddo’r iaith Gymraeg, cyfiawnder cymdeithasol a hunanlywodraeth.”

Cyfarfod â Leanne Wood

Yn dilyn cyfarfod ag arweinydd y blaid, Leanne Wood, ddoe dywedodd Gareth Jones ei fod yn “parchu ei safbwyntiau.”

“Dw i’n derbyn y pwyntiau a dw i ddim eisiau tanseilio ymgyrch Plaid i ennill tir,” meddai.

“Un o’r pethau sy’n gyrru’r rhaglen hon ymlaen ydy materion San Steffan, y posibilrwydd am etholiad arall, ac mae hynny yn fater o bwys i strategaeth Plaid Cymru,” ychwanegodd.

‘Cyffrous’

Yn y cyfamser, mae dau gynghorydd Plaid Cymru oedd wedi’u hethol i’r cabinet â chyfrifoldeb dros addysg wedi ymddiswyddo, sef Trystan Lewis a Garffild Lloyd Lewis.

Mae Gareth Jones, cyn-brifathro, wedi cymryd cyfrifoldeb dros Addysg gan ddweud y gallai ei weinyddiaeth wreiddiol fod yn “gyffrous.”

Dywedodd y byddai sefyllfa Plaid Cymru yng Nghonwy “wedi bod ar ei gryfaf ers ei fodolaeth gydag arweinydd a thri arall yn ymwneud ag addysg a gofal cymdeithasol.”

Mae un cynghorydd arall Plaid Cymru, Liz Roberts, yn parhau ar y cabinet ac yn gyfrifol am ofal cymdeithasol.