Canol dinas Bangor
Fe fydd protest yn cael ei chynnal ym Mangor prynhawn heddiw er mwyn dangos  gwrthwynebiad i’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a phlaid “adain dde eithafol” y DUP.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi bod yn cynnal trafodaethau gydag arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP), Arlene Foster, ar ôl methu a sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Prif nod y digwyddiad fydd i wrthwynebu “casineb” a sefyll dros hawliau’r gymuned LGBTIQ+, menywod, siaradwyr Gwyddeleg a ffoaduriaid, meddai’r ymgyrchwyr.

“Ofn a sioc”

“Rydym wedi trefnu’r brotest mewn ymateb i’r ymdeimlad o ofn a sioc wedi’r etholiad cyffredinol yr wythnos diwethaf o’r posibilrwydd y bydd y Torïaid yn clymbleidio gyda’r blaid adain dde eithafol y DUP,” meddai’r trefnwyr Bethan Ruth, Maia Jones a Lowri Hedd.

“Rydym ni eisiau gyrru neges i San Steffan gan ddweud nad oes gan y DUP – plaid homoffobig, sy’n gwadu newid hinsawdd, ac yn erbyn yr hawl i ferched gael erthyliad – unrhyw le yn ein democratiaeth ni yn y Deyrnas Gyfunol fodern, agored. Byddai’r glymblaid o anrhefn a chasineb yn fygythiad i ni gyd.”

Ymysg yr unigolion fydd yn siarad yn y digwyddiad fydd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams; ymgyrchydd iaith Wyddelig, Padraig O Fearghail; ac Aaron Wynne o Cymdeithas yr Iaith.