Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi’r hawl i deulu ffoadur 23 oed o Syria fu farw yn y tân yn Llundain ddydd Mercher ddod i wledydd Prydain.
Mohammad Alhajali oedd y person cyntaf i gael ei enwi ar ôl i’r tân ledu trwy Dŵr Grenfell.
Roedd mwy nag 85,000 wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi fisas i’w deulu er mwyn iddyn nhw fynd i’w angladd.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan ei ffrind, Mirna Suleiman ar ôl darganfod ei fod e wedi marw.
Teyrnged
Mewn teyrnged i Mohammad Alhajali, dywedodd ei deulu: “Roedd Mohammad yn berson anhygoel a charedig.
“Roedd e’n gariadus tuag at bawb. Fe ddaeth e i’r DU oherwydd bod ganddo fe uchelgais ac amcanion ar gyfer ei fywyd a’i deulu.
“Bydd colled i’r teulu cyfan ar ôl Mohammad a fydd e fyth yn cael ei anghofio.”
Roedd ei frawd, Omar wedi goroesi’r tân.