Yn Aberystwyth heddiw, fe fydd mudiad YesCymru yn cyhoeddi’r hyn y mae’n honni yw’r ‘ddogfen fwyaf gynhwysfawr yn dadlau dros annibyniaeth i Gymru i gael ei chyhoeddi erioed’.

Bydd argraffiad cyntaf Annibyniaeth yn dy boced, sy’n 64 o dudalennau o hyd ac yn dadlau’r achos dros annibyniaeth, yn cael ei roi’n rhad ac am ddim i bob aelod o fudiad YesCymru yn eu cynhadledd flynyddol yn yr Hen Goleg.

“Gellid dadlau mai hon yw’r ddogfen fwyaf cynhwysfawr o blaid annibyniaeth i Gymru sydd erioed wedi ei chyhoeddi,” meddai Iestyn ap Rhobert, cadeirydd YesCymru.

“Allwn ni ddim honni fod gennym yr holl atebion, ond mae’r llyfryn hwn yn cynnig sail cychwynnol pwysig a chadarnhaol ar gyfer trafodaeth.

“Ein gobaith yw y bydd YesCymru yn gallu newid holl naws a chynnwys y drafodaeth honno yn sylfaenol.”

Mae YesCymru yn credu mewn “dinasyddiaeth gynhwysol” sy’n croesawu pawb – o ba bynnag gefndir – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt ac yn dewis ddinasyddiaeth gwladwriaethol Gymreig.

Bwriad y llyfryn hwn yw cyflwyno dadleuon o blaid annibyniaeth a herio y sefyllfa bresennol.

“Yn wyneb y dadleuon a gyflwynwn yma, ynghyd â’r newidiadau cyfansoddiadol cyflym all fod ar y gorwel, y cwestiwn yw: sut, bellach, y gellir anwybyddu mater annibyniaeth i Gymru, a pha achos posibl all fod o blaid y status quo?” meddai Iestyn ap Rhobert wedyn.

Arolwg yn codi calon

Fis diwethaf fe ryddhaodd YesCymru fanylion arolwg barn YouGov a oedd yn dangos fod chwarter pobol Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru.

“Mae’r Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Alban yn paratoi ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth,” meddai Iestyn ap Rhobert.

“Daeth ail-uno Iwerddon yn bosibiliad real. Mae’r Deyrnas Gyfunol yn newid yn sylflaenol ac mae’n holl-bwysig na chaiff Cymru ei gadael ar ôl. “

Mae’r ddogfen yn ymateb i rai o gwestiynau mwyaf dyrys annibyniaeth. Sut all cenedl fach fel Cymru oroesi a ffynnu yn y byd modern? Pa adnoddau sydd gennym i’n cynnal?

“Sut fyddai annibyniaeth yn effeithio ar ein cymdeithas a’n heconomi? Beth fyddai’n perthynas newydd gyda’n cyd-wledydd, pell ac agos?”