Glastonbury (Llun Steve Mack Smith)
Mae disgwyl Jeremy Corbyn ar brif lwyfan gŵyl Glastonbury yr wythnos nesaf i gyflwyno deuawd rap o America.

Bydd arweinydd y Blaid Lafur yn annerch y dorf brynhawn dydd Sadwrn.

Bydd yn cyflwyno’r ddeuawd rap Run The Jewels sy’n gefnogwyr brwd o Bernie Sanders, a geisiodd am enwebiad y Democratiaid i sefyll yn erbyn Donald Trump am arlywyddiaeth America.

Mae’r ddeuawd yn adnabyddus am eu gwleidyddiaeth adain chwith ac mae geiriau eu caneuon yn sôn am broblemau cymdeithasol.

Dywedodd sylfaenydd Glastonbury, Michael Eavis, 81, a fydd ar y llwyfan gyda Jeremy Corbyn fod yr ŵyl yn ei gefnogi.

“Mae ganddo rywbeth newydd a gwerthfawr, ac mae pobol yn cyffroi. Fe yw arwr yr awr,” meddai.

Mar disgwyl i’r Canghellor cysgodol ar gabinet Llafur, John McDonnell, AS Llafur Clive Lewis, yn ogystal â chyn-weinidog cyllid Gwlad Groeg, Yanis Varoufakis, fod yn yr ŵyl yng Ngwlad yr Haf hefyd.