Tim Farron
Mae plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwilio am arweinydd newydd am yr ail waith mewn dwy flynedd, yn dilyn ymddiswyddiad Tim Farron.

Fe ddaeth ei gyhoeddiad ei fod yn gadael y swydd ddydd Mercher – a hynny oherwydd na allai oddef cael ei groesholi ynglyn â’i ffydd Gristnogol.

Y cyn-weinidog Busnes, Jo Swinson, ydi’r ffefryn i gymryd ei le, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y blaid.

Fe gafodd Tim Farron ei holi’n ddiddiwedd am ei gred yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol – yn benodol felly am ei farn am berthnasau hoyw.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ddoe, dywedodd fod ei grefydd wedi ei wneud yn “destun amheuaeth”. Ond fe ddaeth y cyhoeddiad hefyd wedi i lefarydd materion cartref y blaid, yr Arglwydd Paddick, sy’n ddyn agored hoyw, roi’r gorau i’w swydd oherwydd ei “bryderon tros farn yr arweinydd ar nifer o faterion”.

Roedd sôn y byddai aelodau amlwg eraill o’r blaid yn ymddiswyddo hefyd, pe na bai Tim Farron yn neidio.

Emosiynol 

Mewn datganiad emosiynol, dywedodd Tim Farron nad oedd wedi llwyddo i allu sgwario ei ffydd Gristnogol gyda’r gwaith o arwain plaid ryddfrydol.

“Canlyniad yr holl sylw ar fy ffydd ydi fy mod wedi fy nghael fy hun yn cael fy rhwygo rhwng bod yn Gristion ffyddlon ac yn arweinydd gwleidyddol,” meddai.

“Mae bod yn arweinydd gwleidyddol – yn enwedig ar blaid ryddfrydol yn y flwyddyn 2017 – ac i allu byw fel Cristion, a bod yn ffyddlon i ddysgeidiaeth y Beibl, wedi bod yn amhosib i mi.”

Tra ei fod wedi bod yn gefnogol i hawliau priodasol cyfartal i bobol hoyw, lesbiaid a thrawsrywiol, mae wedi gwrthod dweud os ydi o’n credu fod cyfathrach rhwng pobol o’r un rhyw yn bechod ai peidio.