Nicola Sturgeon yn cadw at ei chynlluniau (Llun: PA/Wire)
Mae’r gwrthbleidiau Holyrood wedi galw ar Lywodraeth yr Alban i gael gwared ar gynlluniau am ail refferendwm ar annibyniaeth – a hynny er lles yr economi.

Collodd yr SNP 21 o’u 56 sedd yn San Steffan yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8 – arwydd bod y cyhoedd wedi cefnu ar annibyniaeth, yn ôl y pleidiau Ceidwadol a Llafur Albanaidd.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, eisoes wedi nodi ei bod yn credu y gwnaeth trafod cynnal refferendwm arall yn ystod yr ymgyrch, gyfrannu at ganlyniadau siomedig y blaid.

Er hynny mae wedi gwrthod adroddiadau sy’n awgrymu ei bod yn bwriadu “ail brandio” a chefnu ar ail refferendwm yn llwyr.

Y gwrthbleidiau

Mae llefarydd materion economaidd y Torïaid Albanaidd, Dean Lockhart, wedi datgan fod etholwyr wedi “gwrthod ail refferendwm yn llwyr” trwy bleidleisio am bleidiau sydd o blaid yr undeb.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Albanaidd Llafur, Jackie Baillie, “heblaw am Brexit, ail refferendwm yw’r bygythiad mwyaf i’r economi.”